Yna rydych angen Sbarc.
Mae Sbarc yn asiantaeth farchnata a chyfathrebu greadigol a deinamig. Rydym yn cyfuno dawn gyda gwybodaeth marchnata a chysylltiadau cyhoeddus i godi eich busnes i’r lefel nesaf. Yn lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd, ehangu’ch eich busnes neu angen hwb i wasanaeth fflat, gall Sbarc helpu.
Gall Sbarc fod eich adran farchnata a chysylltiadau cyhoeddus.
Cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau’r cyfryngau
Gall ennill enw da fod yn broses hir ond gellir ei golli ar amrant. Ac mewn marchnad gystadleuol, mae llawer o gwsmeriaid yn prynu ar enw da’n unig. Drwy gynllunio cysylltiadau cyhoeddus yn ofalus gallwn eich helpu i gynnal a gwella enw da’ch busnes gyda’r bobl sy’n cyfrif. Gall Sbarc greu’r cynllun hwn a’i roi ar waith. Gallwch adeiladu perthynas gyda’r cyfryngau drwy ein gwasanaeth datganiadau i’r wasg. Gallwch anfon taflenni newyddion i’ch cwsmeriaid i adeiladu teyrngarwch, codi eich proffil drwy noddi (dolen) neu gynnal digwyddiadau (dolen) i greu dealltwriaeth.
Mae enw da yn cryfhau busnes. Gallwch ei ennill gyda Sbarc.
Marchnata
Marchnata yw’r peiriant sy’n tyfu busnes. Gall lywio eich busnes ar lwybr mwy proffidiol a chanolbwyntio ar eich gweithgarwch o ddydd i ddydd. Gall Sbarc fod eich adran farchnata chi eich hunan neu roi sgiliau ac adnoddau ychwanegol i’ch sefydliad presennol. Gallwn greu strategaeth farchnata i chi, a’i gweithredu hefyd yn ôl y gofyn. Mae Sbarc yn hyblyg, beth bynnag yw eich anghenion gallwn weithio’n ddidrafferth gyda chi. Beth bynnag a gewch gan Sbarc, gallwch fod yn sicr y bydd o fudd i’ch busnes.
Rheoli a noddi digwyddiadau
Mae cymaint o arddangosfeydd (dolen) a chyfleoedd i noddi yn gallu bod yn ddryslyd. Dewiswch y rhai iawn a bydd eich busnes yn ffynnu. Dewiswch y rhai sâl a byddwch yn gwastraffu amser ac arian. Bydd profiad Sbarc yn sicrhau y byddwch yn rhan o’r digwyddiadau iawn o’r cychwyn cyntaf. A gall Sbarc eich helpu i greu eich cyfleoedd chi eich hunan. Gall cynnal eich digwyddiad eich hunan fod yn gynhyrfus a chynhyrchiol, ond yn bryder sy’n bwyta amser hefyd – ac mae’n hawdd camfarnu. Gallwch ddefnyddio arbenigedd a chreadigedd Sbarc i gael y gorau o’r rhain.
Arddangosfeydd
Mae cymaint o arddangosfeydd yn ddigon i ddrysu rhywun, a phob un i’w gweld yn ddeniadol. Ewch i’r rhai iawn a bydd eich busnes yn elwa. Ewch i’r lleill a byddwch yn gwastraffu amser ac arian. Bydd profiad Sbarc yn sicrhau y byddwch yn mynychu’r rhai sydd orau i chi.
Byddwn yn sicrhau y byddwch yn creu argraff ac yn cael y gorau o’r cyfle. Angen rhywun i roi help llaw neu rywun i reoli pob agwedd o’ch presenoldeb? Bydd Sbarc yn sicrhau y cewch y gorau o’ch arddangosfa.
Lletygarwch corfforaethol
Gallai Sbarc fod y gwahaniaeth rhwng gwastraffu arian ac amser ac adeiladu perthynas yn arwain at ragor o fusnes. Mae lletygarwch llwyddiannus yn golygu gwybod pwy i’w wahodd i ba ddigwyddiad, neu wybod pa wahoddiadau i’w derbyn. Gyda help Sbarc, byddwch yn ysgwyd llaw gyda’r bobl iawn ac yn pwyso’r botymau cywir – ac yn ennill busnes.
Dyluniadau graffig
Mae dylunio graffig yn fwy na thaflenni tlws a phenllythyrau pert – mae’n golygu gwneud argraff gyntaf gwych. Bydd dylunwyr talentog Sbarc yn sicrhau y bydd eich llenyddiaeth yn llwyddo i wneud hynny. Byddwch yn elwa o argraff gyson a phroffesiynol, a fydd yn rhoi hyder i chi a’ch cwsmeriaid. Bydd Sbarc yn gweithio gyda chi i greu delwedd weledol y gallwch fod yn falch ohoni.
Dylunio gwefannau
Ydych chi’n falch o’ch gwefan? Os nad ydych, gwnewch rywbeth yn ei chylch!
Eich gwefan fydd profiad cyntaf llawer o ddarpar gwsmeriaid â’ch busnes. Os nad yw’n edrych yn dda, neu ddim yn gweithio, efallai y byddan nhw’n mynd i rywle arall. Mae Sbarc yn dylunio ac yn adeiladu gwefannau y gall busnesau fod yn falch ohonyn nhw. A ydych angen siop ar lein, y gallu i lwytho testun a delweddau eich hunan, ffurflenni, fideo a blog, bydd Sbarc yn eu creu i chi.
Ac, yn wahanol i’r rhan fwyaf o ddatblygwyr gwefannau, gallwn ysgrifennu’r testun i chi – fel y gallwch chi gario mlaen â’ch busnes.
Gwefannau gwell a di-stŵr – dyna gewch chi gan Sbarc.
Oriel
Cymerwch olwg ar beth o’n gwaith? Ei hoffi? Yna rhowch alwad i ni!




01248 717 903