Mae gŵr busnes o CHORLEY sy’n defnyddio ffrwythau yn eu tymor i wneud hufen iâ yn galw ar bobl i achub eirin bach “cudd" y rhanbarth.
Mae Hufen iâ Bleasdale, sy’n cynnwys eirin bach ymysg ei flasau, yn gofyn i’r cyhoedd am eirin bach o safon.
Mae sylfaenydd y busnes, Colin Bleasdale, yn addo y bydd pawb sy’n rhoi eirin bach yn cael eu blasu yn ei hufen ia.
Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o eirin bach sy’n tyfu ar goed mewn perllannau a gerddi “cudd” ledled gogledd-orllewin Lloegr yn mynd yn wastraff. Plannwyd y coed i gael eirin bach i wneud lliw ar gyfer diwydiant tecstilau Sir Gaerhirfryn,.
Yn ôl Colin, sy’n gwneud hufen iâ o riwbob, mefus, mwyar duon a llus, mae’n cymryd mwy na 100 o eirin bach i wneud dim ond un litr o hufen ia.
Mae’r busnes yn canfod ei ddeunydd crai o berllannau wedi’i gadael i fynd yn wyllt o amgylch Sir Gaerhirfryn. Yn aml, pan mae’r cyhoedd yn rhoi ffrwythau’n anrheg iddo, mae’n talu amdanyn nhw mewn hufen ia.
Meddai Colin: “Mae'n bechod fod cymaint o eirin bach yn cael eu gwastraffu. Yn fy marn i, maen nhw'n rhoi gwell blas nag eirin mawr, ond mae eirin mawr yn cael mwy o gyhoeddusrwydd.
“Mae’n debyg mai’r rheswm yw eu bod yn anos eu paratoi. Ond, os ydych chi’n gwneud rhywbeth â llaw, mae'n sicr yn werth yr ymdrech.
Mae hufen iâ eirin bach Bleasdale yn oeri tafodau mewn gwyliau bwyd ymhell ac agos.
Y nesaf yw Gŵyl Fwyd Llangollen ddydd Sadwrn 15 Hydref a dydd Sul 16 Hydref. Bydd cyfle i bawb flasu'r hufen iâ yno.
Ac meddai Colin eto: "Eirin bach yw un o'n hufen iâ gorau - mae'n felys ac yn flasus tu hwnt. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn dod i edrych amdanon ni ac yn cael blas arno.
“Ac os na fyddan nhw yno, mi allan nhw fynd ar wefan yr ŵyl a chael golwg ar y ryseitiau rydyn ni'n eu hawgrymu ar gyfer pwdinau eraill â blas eirin bach.




01248 717 903