Mae gŵyl newydd sbon yn cynnig llwybr unigryw i egin ddawnswyr Cymru i un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf y byd – a chyfle i gystadlu am ran o £3,500.

Mewn partneriaeth sy’n torri tir newydd, bydd yr Ŵyl Ddarganfod gyntaf ar Ynys Môn fis Mai yn rhoi cyfle i 12 cwmni o ddawnswyr gwerin berfformio ar lwyfan  Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni.

 Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod, a gafodd ei sefydlu ym 1947, ganiatáu i enillwyr mewn digwyddiad arall ennill lle yn ei chystadlaethau gwych – sydd wedi helpu i lansio gyrfaoedd sêr y byd megis Syr Bryn Terfel, Luciano Pavarotti a Placido Domingo.

Cynhelir Gŵyl Ddarganfod Cymru ar Faes Sioe Mona dros dridiau o ddydd Iau 30 Mai hyd at ddydd Sadwrn 1 Mehefin.  Mewn gwirionedd, mae’n dri digwyddiad mewn un sy’n cyfuno antur, diwylliant a’r awyr agored gwych.

Mae’n cyd-redeg ag ymgyrch Croeso Cymru sydd wedi dynodi 2019 yn Flwyddyn o Ddarganfod ac mae’n cynnwys rhaglen sy’n llawn cerddoriaeth, dawns, bwyd, natur, gwyddoniaeth, antur ac adloniant gyda’r nos, yn ogystal â chynnig i glampio mewn pebyll moethus ar y safle.

Bydd dawnsio gwerin yn rhan annatod o’r adran diwylliant gyda phedair cystadleuaeth, Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol, Grŵp Dawnsio Gwerin Coreograffig / Arddulliedig, Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol i Blant ac Arddangosfa Ddiwylliannol – gyda’r tri gorau ym mhob dosbarth yn cael gwahoddiad i Langollen fis Gorffennaf – yn ogystal â gweithdai i gyflwyno dawns i gynulleidfa newydd.

 Bydd brenin clocswyr Cymru, Huw Williams, pencampwr dawnsio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Llangollen, ymysg y rhai a fydd yn rhedeg y gweithdai dawns yn yr ŵyl a bydd hefyd yn beirniadu cystadlaethau dawns.

Mae Huw, 59 oed o Frynmawr ym Mlaenau Gwent, wedi ysgrifennu caneuon ar gyfer y chwedlonol Fairport Convention, wedi perfformio gyda seren brig y siartiau Ralph McTell ac mae’n rheoli’r Band Cymreig enwog Calan, y mae ei ferch, Bethan Rhiannon, sydd hefyd yn bencampwr o glocsiwr, yn aelod ohono.

Meddai: “Mae cerddoriaeth werin Cymru’n mwynhau adfywiad. Mae fel gwylio corwynt yn cychwyn ac rwy’n credu y gallai’r un peth digwydd i ddawns Gymreig oherwydd ei bod yn eithaf unigryw.

“Brwydrodd dawnsio Cymreig i oroesi diwygiadau crefyddol y 19eg ganrif pan oedd gwgu mawr ar ddawnsio yn enwedig.  Ers talwm, doedd yr un grŵp dawnsio Cymreig yn gallu ennill cystadleuaeth dawnsio gwerin oherwydd doedd yr un o’u dawnsiau’n draddodiadol – roedd pob un wedi’i chyfansoddi.

“Pan ddechreuais i yn y 1970au roedd rhaid i ni ddatblygu’n dawnsiau ein hunain a dyfeisio stepiau newydd – ac mae hynny’n agwedd unigryw o ddawnsio gwerin Cymru.

“Fi ddyfeisiodd lawer o’r stepiau ac mae dawnswyr iau wedi codi ac wedi cymryd dawns ymlaen, maen nhw’n llawer gwell ac yn fwy dyfeisgar na fi ac rwy’n edrych ymlaen at weld hynny ar Ynys Môn.

“Dylai fod yn ŵyl ffantastig ac yn gyfle i ddathlu diwylliant ac iaith Cymru.

Meddai Davina Carey-Evans, trefnydd Gŵyl Ddarganfod a rheolwr gyfarwyddwr Sbarc ym Miwmares. “Mae’n gyffrous iawn cael partneriaeth gydag Eisteddfod Llangollen a chael Huw Williams yn cymryd rhan.

“Mae’n un o hoelion wyth dawns Cymru ac mae’n gyfle gwirioneddol i arddangos dawns fel elfen bwysig a byrlymus o ddiwylliant Cymru.  Mae’r cystadlaethau’n rhoi’r cyfle i ddawnswyr o bob rhan o Gymru ennill lle yn yr Eisteddfod ac efallai ymddangos ar y llwyfan ar y nos Sadwrn yn cystadlu am deitl Pencampwyr Dawns y Byd.”

Mae hynny’n rhywbeth y mae Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro yr Eisteddfod, Edward Rhys Harry wrth ei fodd yn ei gylch ac meddai: “Y bartneriaeth hon gyda’r Ŵyl Ddarganfod yw’r un gyntaf i ni, mae’n ein galluogi ni i ymestyn allan i’r gymuned a chreu cysylltiadau gyda digwyddiadau diwylliannol eraill.

“Mae dawns yn bwysig iawn i ni yn Llangollen gyda dawnswyr yn dod yma o bob rhan o’r byd.  Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o gystadleuwyr o Gymru, o bob oedran, waeth pwy ydyn nhw.

“Bydd Pencampwyr Dawns y Byd ar lwyfan yr Eisteddfod nos Sadwrn ac rwy’n gobeithio, nid yn unig gweld cynrychiolaeth o Gymru yno, ond hefyd yn cyrraedd y brig.”

Y dyddiad cau i geisiadau ym mhedwar categori dawns Gŵyl Ddarganfod yw 29 Mawrth.  Mae’r manylion ynglŷn â sut i ymgeisio, yn ogystal â gwybodaeth lawn am y digwyddiad 3 diwrnod, ar y wefan https://www.festivalofdiscovery.wales/

Cynhelir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni o 1 – 7 Gorffennaf.  Mae manylion pellach ar wefan https://international-eisteddfod.co.uk/